Cyngor Sir Ynys Môn

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - Ymateb i’r ymgynghoriad

 

1.    Mae consensws cyffredinol bod angen deddfwriaeth a fydd yn caniatáu un ddeddf i Gymru:  deddf a fydd yn dwyn ynghyd dyletswyddau a swyddogaethau’r awdurdodau lleol a’r partneriaid mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol.

 

Tra bo teitl y ddeddfwriaeth nawr wedi ei newid, a hynny yn adlewyrchu cyfrifoldebau ehangach y ddeddfwriaeth tu hwnt i Wasanaethau Cymdeithasol, mae angen gwneud mwy er mwyn sicrhau clirdeb y neges a synnwyr o gyd gyfrifoldeb ar draws darparwyr gan gynnwys  partneriaid statudol datganoledig a rheini nad ydynt wedi eu datganoli, ynghyd â’r sector annibynnol a’r drydedd sector. Ar hyn o bryd ystyrir fod y ddeddfwriaeth yn effeithio yn bennaf ar wasanaethau cymdeithasol yn hytrach na’i botensial fel gyrrwr newid sylweddol ar draws yr holl ddarparwyr gofal cymdeithasol.

 

Mae’r ddeddfwriaeth gyfredol, yn enwedig mewn perthynas â gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion, angen ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’n well newidiadau demograffig a newidiadau mewn disgwyliadau cymdeithasol.

 

Mae angen cyflwyno'r ddeddfwriaeth mewn modd hawdd ei ddeall ac sy’n eglurhau pwy ddylai dderbyn cymorth a chefnogaeth.

 

2.    O ystyried cyd-destun Cymreig y ddeddfwriaeth mae’n siomedig nad oedd cydnabyddiaeth gryfach i anghenion dinasyddion i dderbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg.  Oni bae fod yr agwedd yma yn cael ei chryfhau mae’n annhebygol y bydd y ddeddfwriaeth yn hwyluso ac yn sail i ddisgwyliadau “Mwy na Geiriau”.

 

3.    Wrth groesawu dyheadau a’r egwyddorion sy’n sail i’r Ddeddfwriaeth mae risg na fydd modd eu gwireddu oni bae fod gwir newid mewn diwylliant a disgwyliadau dinasyddion Cymru. Mae pwyslais cynyddol ar “les” a “gwasanaethau ataliol”.  Ni fydd y gwasanaethau ar gael nac yn fforddiadwy pe pery’r disgwyliadau mai rôl y “wladwriaeth” ac awdurdodau lleol yw darparu'r rhain. Mae angen pwyslais cynyddol a chlirdeb bod angen i’r ddeddfwriaeth gael ei gwireddu mewn cyd-destun ble mae mwy o gyfrifoldeb cymunedol a chyfrifoldeb dinesydd ar y cyd â gwasanaethau cymdeithasol. (Awdurdodau Lleol a phartneriaid) yn ymgymryd â rôl siapio a chomisiynu gwasanaethau uniongyrchol a gwasanaethau anuniongyrchol.

Heb glirdeb ynglŷn â’r adnodd a’r newidiadau sydd eu hangen mae risg y daw'r ddeddfwriaeth yn “addewid gwag”.  Mae Awdurdodau Lleol, ynghyd ag asiantaethau partner, yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Mae yna dybiaeth y bydd y newidiadau sydd yn cael eu hargymell yn adnabod arbedion ar gyfer darparu gwasanaethau ataliol ehangach.  Mae profiad yn awgrymu nad dyna’r achos.  Mae llawer o’r newidiadau arfaethedig yn cael eu cyflwyno fel rhan o arbedion effeithiolrwydd o fewn awdurdodau lleol a ni fydd y cyllid refeniw a rhagwelir ar gael i’w ail fuddsoddi.

 

4.    Gyda’r newidiadau a rhagwelir mewn disgwyliadau a diwylliant gellid ystyried bydd gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol rôl gynyddol mewn siapio, comisiynu a gwarantu ansawdd o fewn y sector ofal a rôl lai mewn darpariaeth uniongyrchol o wasanaethau.

 

5.    Rhwystrau Posib

Fel yr awgrymir uchod mae risg y bydd y Ddeddfwriaeth yn cynyddu disgwyliadau ar wasanaethau cyfredol lle bydd cyfran ehangach o’r boblogaeth yn ystyried eu bod yn gymwys am wasanaethau gan yr awdurdod lleol.  Nid yw hyn yn ddymunol yng ngoleuni'r cyd-destun ariannol cyfredol, ac i’r dyfodol, ynghyd â chynnydd yn y boblogaeth hyn.

Rydym yn ffodus yng Nghymru bod y gymuned gwasanaethau cymdeithasol wedi profi ymrwymiad i gyd weithio ar draws gwasanaethau a ffiniau daearyddol.  Er hyn bydd disgwyliadau'r ddeddfwriaeth bod angen mwy o gysondeb gwasanaethau ar sail Cymru gyfan yn dod â gofynion sylweddol.  E.e. Rydym yn ymwybodol fod angen llawer o waith er mwyn sicrhau cysondeb data ar draws awdurdodau lleol.  Mae’r isadeiledd sydd ei angen ar gyfer mynd i’r afael â materion fel hyn, er yn ddymunol, yn sylweddol.

6.    Dim sylw

 

7.    Croesawir y ffaith fod gan y Gweinidog yng Nghymru'r gallu i lunio is ddeddfwriaeth addas ar gyfer dinasyddion Cymru. Er hyn cydnabyddir yr angen i sicrhau fod deddfwriaeth o’r fath wedi ei ymchwilio’n drwyadl o fewn y cyd-destun Cymreig a Phrydeinig. Mae deddfwriaeth gadarn sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol yn gymhleth ac angen is adeiladed cadarn,  a bydd y gofynion ar y gwasanaeth sifil cefnogol a’r rhwydweithiau cefnogol yn sylweddol.

 

 

8.    Oblygiadau ariannol.  Gweler uchod.  Erys swyddogion ac Aelodau yn bryderus ynglŷn â’r cynnydd mewn disgwyliadau y gall y ddeddfwriaeth eu cyflwyno yn wyneb y pwyslais ar “les”.  Bydd ehangu’r criteria mynediad i wasanaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn cyflwyno baich ariannol sylweddol ar system sydd eisoes dan bwysau.  Mae Awdurdodau Lleol yn medru dangos gwir ymrwymiad i geisio amddiffyn gwasanaethau gofal ar lefel leol ond yn amlach na pheidio mae hyn ar draul gwasanaethau cyhoeddus pwysig eraill.

 

Rydym hefyd yn herio’r dybiaeth y gellid cyflwyno’r newidiadau sylweddol ar sail dim cost.

 

 

Gwen Carrington

Cyfarwyddwr Cymuned (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol)

 


 

The Isle of Anglesey Mon County Council

Social Services & Well Being (Wales) Bill - response to consultation:

 

1.     There is a general consensus that there is a need for the Bill which will allow for a single Act for Wales which brings together the local authorities’ and partners’ duties and functions in relating to the provision of social care. 

Whilst the amended title of the Bill does now better reflect the broader responsibilities of the Bill beyond Social Services more needs to be done to ensure clarity of message and a shared sense of responsibility across providers including devolved and non-devolved statutory partners as well as the independent and Third Sector.  Currently the Bill is considered as impacting primarily on Social Services as opposed to its potential as a significant game changer across all social care providers.

 

The current legislation, especially relating to adult social care, needs to be updated to better reflect demographic changes and social expectations. 

 

The Bill needs to be presented in a way that is easily understood and makes it clear who should get help and support.

 

2.    Given the Welsh context for this legislation it is disappointing that there is not a greater recognition of the needs of Welsh speaking citizens when accessing social care.  Unless this aspect is strengthened it is unlikely that the Bill will facilitate and underpin the expectations of “More than Words”.

 

3.    Whilst welcoming the aspirations and principles underpinning the Bill there is a risk that this will not be deliverable unless accompanied by a real change of culture and expectations by the citizens of Wales.   There is an increased emphasis on “wellbeing” and “preventive services”. The services will not be affordable or available if there is a continued expectation that the “state” and local authorities is expected to provide.  There must be an increased emphasis and clarity that the Bill is delivered within a context where there is greater citizen and community responsibility with Social Services  (Local Authorities and partners) playing an increased role in the shaping and commissioning of direct and indirect services.

 

Without clarity about the resources and changes required there is a risk that the Bill becomes an “unfulfilled promise”.  Local Authorities, as well as partner agencies, are facing considerable financial challenges. There is an assumption that the proposed changes will identify the savings required to provide broader preventive services.  Experience suggests that this is not the case.  Many of the proposed changes are being introduced as part of the efficiency savings within authorities and the anticipated revenue funding released will not be available.

 

4.    With the anticipated changes in expectations and culture it can be envisaged that the social services departments will have an increased role in the shaping, commissioning and quality assurance of the care sector and a reduced role in the direct provision of services.

 

5.    Potential Barriers

As suggested above there is a risk that the Bill serves to increase expectations on current services whereby a greater proportion of the population consider themselves eligibility for services provided by the local authority.  This will not be deliverable given the current and anticipated financial context and increase in the older population.

We are fortunate in Wales in that the social services community has evidenced a commitment to collaborative working across service and geographical boundaries. Nevertheless the expectations within the Bill for greater consistency of services on an all Wales basis will bring significant demands.  E.g. We know that a great deal more needs to be done to ensure consistency of data across local authorities.  The infrastructure required to address such issues, although desirable, is considerable.

6.    No comment

 

7.    The ability for Welsh Minister to have the power to make subordinate legislation appropriate for the people of Wales is welcomed.  Nevertheless the practical requirements to make sure that such legislation is well researched within a Welsh and British context are acknowledged.  Robust legislation relating to social care is complex requires a sound infrastructure and the demands on the supporting civil service and supportive networks will be considerable.

 

8.    Financial Implications See above.  Officers and members remain concerned about the increased expectations the Bill may introduce given its emphasis on “wellbeing”.  Broadening the eligibility criteria for service users will introduce significant financial burdens on an already pressurised system.  Local Authorities are evidencing a real commitment to trying to protect social care services at a local level but this is often at the cost of increased pressure for additional savings from other important public services.

 

The ability to introduce such significant changes on a no cost basis is also challenged. 

 

 

Gwen Carrington

Director of Community (Statutory Director Social Services)